Elinor Bennett: Llais Hen Delynau
When
Saturday, 30 May 2026 at 14:00
Penrallt Street, Machynlleth, SY20 8AJ
Time
14:00
Price
Not listed — worth a quick ask
About this event
Cyfle i wrando ar gerddoriaeth hyfryd o ‘r 18fed ga’r 19eg ganrif ar ddwy delyn hanesyddol a wnaed yn y cyfnod. ” Wedi canu darnau gan Handel a John Parry ar y delyn fodern am flynyddoedd, rwyf yn awyddus i rannu’r hwyl a gefais wrth ddysgu canu’r un gerddoriaeth ar yr offerynnau gwreiddiol. Dibynnais ar yr hen delynau, a llawysgrifau gwreiddiol o’r cyfnod – i ddangos y ffordd imi. Gwaith cariad oedd y broses o ganfod sain wirioneddol y cyfnod, ac mae rhai o’r technegau yn wahanol iawn i’n cyfnod ni. Rwyf wedi cael cyngor gan sawl cerddor sydd wedi arbenig o fewn maes cerddoriaeth cynnar, ac yn ddiolchgar am hynny. Mae’r stori’n cychwyn gyda’r Delyn Deires a ddatblygwyd yn yr Eidal yn ystod y Baroc, ac a oedd yn boblogaidd yng nghyfnod Handel. Gyda thair rhes o dannau, roedd yn delyn gymleth ac yn ddrud i roi tannau arni – ac fe gafodd ei hanghofio yng ngwledydd Ewrop. Ond yn rhyfeddol, mabwysiadwyd hi gan yr hen delynorion Cymreig, a pharhaodd fel telyn y werin yng Nghymru. Gwnaed fy nhelyn deires i gan y gwneuthurwr telynau enwog, John Richard o Lanrwst, tua 1755. Yn ystod diwedd y 18fed ganril, di-sodlwyd yr hen Delyn Deires yn y mwyafrif o wledydd Ewrop gan delynau pedal mecanyddol newydd o Ffrainc a’r Almaen, a oedd yn galluogi telynorion i newid traw y tannau gyda’u traed.
This event was originally posted by Museum Of Modern Art. Visit their site for the latest details.
Event details on Near Here are aggregated from third-party sources and may change. Always verify times, location, availability, and any price directly with the organiser before travelling. See Terms.
While you're in the area...
Fancy a few more nearby ideas? We'll pull them in when you ask, rather than rummaging through the database on every page load.